Iesu! estyn dy deyrn-wialen
Dros derfynau eitha'r byd;
Dyrcha'th faner at y bobloedd,
Atat tyn y rhai'n i gyd:
Gan bob llygad
Gwelir iachawdwriaeth Duw.
Holl deyrnasoedd byd yn gyfan,
A'nt yn eiddo'n Harglwydd ni;
Ei lywodraeth fydd yn eang,
A'i anrhydedd uwch pob bri:
Bydd yn amlwg
Ei ogoniant Ef a'i ras.
John Williams 1754-1828 (?)
priodolwyd hefyd i | attributed also to
Tonau [878747]: gwelir: Boed i Grist yn etifeddiaeth Holl deyrnasoedd byd yn gyfan |
Jesus extend thy sceptre
Over the utmost ends of the world!
Raise thy banner over the peoples,
Draw them all to thyself:
By every eye
Is God's salvation to be seen.
All the kingdoms of the whole world,
Shall become those of our Lord;
His government shall be extensive,
And his honour above all renown:
Evident shall be
His glory and his grace.
tr. 2021 Richard B Gillion
|
|